Cwestiynau Cyffredin
Dyma adran sy’n dangos y cwestiynau cyffredin efallai fydd o ddefnydd i chi wrth drefnu eich ymweliad â Fferm Morfa.
- Gawn ni ddod â’n cŵn/anifeiliaid anwes?
Gallwch. Mae Morfa yn [croesawu anifeiliaid anwes] i’r sawl sy’n aros mewn carafán neu yn y gwersyll. Os ydych yn aros yn y tŷ bynciau neu’r bwthyn, cysylltwch â’r perchnogion i’w trafod.
- Ga’i dalu gyda fy ngherdyn debyd/credyd?
Ar hyn o bryd gallwn ond derbyn arian parod neu siec yn Fferm Morfa. Does dim peiriant “chip and pin” na pheiriant arian parod ar y safle, felly cynghorir i westeion dod â digon o arian i bara trwy gydol eich arhosiad. Mae peiriannau arian parod ar gael yn y pentrefi cyfagos.
- Oes rhaid dod â dillad gwely?
Oes, rydym yn cynghori gwesteion sy’n aros mewn carafán i ddod â dillad gwely, er darperir blancedi a chlustogau. Cynghorir i’r sawl sy’n aros yn y tŷ bynciau i ddod â sach cysgu neu dduvet, neu gallwch logi duvet wrth gyrraedd.
- Oes yna siop yn agos?
Mae siop ar y safle gyda phapurau newydd, hufen iâ, offer pysgota, nwy, teganau a bwydydd ar gael, ynghyd ag wyau o’r fferm. Mae gorsaf betrol a siop ym mhentref Llanrhystud, ddim yn bell o Morfa.
- Ga’i ddefnyddio’r llithrfa?
Gall unrhyw un o’n westeion defnyddio’r llithrfa, pa bynnag llety yr ydych yn aros ynddo. Ar ôl i ni dderbyn copi o’ch yswiriant cwch byddwn yn darparu trwydded ar gyfer y llithrfa i’w harddangos ar eich cwch.
- Oes angen trwydded i bysgota?
Rhaid cael trwydded gwialen bysgota er mwyn pysgota ar yr afon Wyre.
- Oes ‘na lefydd i fwyta allan yn yr ardal?
Mae ‘na digon o ddewis o lefydd bendigedig i fwyta yng Ngheredigion, a gall ei staff rhoi cyngor ar le i fynd, yn seiliedig ar eich hoffterau.
- Oes traeth tywod yna?
Ydy, mae’r traeth yn dywodlyd, ond pan fo’r llanw i mewn gellir ond gweld ardal greigiog y traeth.
- Sut mae’r cludiant cyhoeddus?
Mae maes carafanau Morfa awr i ffwrdd o borthladd Aberaeron. Mae’r fferi yn ôl ac ymlaen i Rosslare, yn yr Iwerddon, yn gadael yn rheolaidd.
Mewn car ewch ar yr A487 o Aberystwyth tuag at Aberaeron. Ar ôl fynd trwy Lanrhystud cadwch at y dde wrth yr orsaf betrol, a dilynwch y ffordd ar y chwith tuag at y traeth. Mae’r troad olaf ar y dde, cyn y traeth, yn mynd â chi at y fferm.
Mae ‘na fysiau – ar gyfnodau rheolaidd – yn teithio rhwng Aberystwyth a Chei Newydd gan roi dewis o nifer o lefydd diddorol a phrydferth i chi ymweld â hwy.
- Ga’i dalu mewn rhandaliadau?
Mae cynlluniau talu yn seiliedig ar argaeledd, ac ar benderfyniad y perchnogion. Fel arfer gofynnir am flaendal wrth fwcio carafan neu’r bwthyn.
- Ga’i fwcio’r tŷ bynciau yn ei gyfanrwydd, neu ystafell gyfan?
Cewch. Mae prisiau ar gael ar gyfer bwcio’r tŷ bynciau yn ei gyfanrwydd, ynghŷd â phrisiau gostyngedig.
- Rydw i’n bwriadu cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion. Ydych chi’n medru trefnu i ddanfon fy magiau ymlaen?
Ie, gallwn drefnu i ddanfon eich bagiau ymlaen at eich llety ar gyfer y noson nesaf.
- Ydy’r safle yn ddiogel i blant a phobl ag anableddau?
Mae’r holl safle yn hollol ddiogel i blant, gyda nifer o ddulliau diogelu mewn lle. Rydym hefyd wedi gweithio’n galed i wella hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau, a gallwch drafod hwn trwy gysylltu â [email protected] <mailto:[email protected]>
- A fydd fy offer costus yn ddiogel wrth aros yn Fferm Morfa?
Mae ardaloedd diogel ar gael i westeion cadw eu hoffer dan glo.
- Ydy’r cyfleusterau sydd ar gael yn dibynnu ar ba more hir rydw i’n aros?
Mae adnoddau Fferm Morfa ar gael i’n holl westeion, gan gynnwys siop, ystafell snwcer/gemau, cwrt tenis, llithrfa preifat, man chwarae i blant a chyfleusterau storio.