Does dim diffyg dewis i’r sawl sy’n hoff o chwaraeon dŵr, gyda traeth mawr yn Fferm Morfa yn cynnig amodau sy’n addas ar gyfer hwylfyrddio, defnyddio caiac, hwylio, SUP-ing a syrffio.
Rydym y gweithio’n agos gyda darparwyr lleol er mwyn cynnig gwersi, a gallwn deilwra gweithgareddau fydd yn cwrdd â’ch anghenion. Mae traethau adnabyddus Borth a Chei Newydd hefyd yn agos.
“Mae’r amodau ar gyfer chwaraeon dŵr yn grêt yn Fferm Morfa. Mae’r holl ddewisiadau llety wedi’u cynllunio gyda’r traeth mewn cof, yn enwedig y maes gwersylla sy’n croesawu carafanau teithio a “campervans”, ac sydd wedi’i leoli reit wrth ymyl y dŵr; perffaith ar gyfer mynd allan yn y bore bach”
Jim Brooks-Dowsett Owner, Puravida Boardriders
contact – [email protected]